Y Biome yn Paratoi i Groesawu ei Breswylwyr Cyntaf
15 Gorffennaf 2026
Wrth i’r Biome agosáu at groesawu ei breswylwyr cyntaf, ymwelodd aelodau tîm Prosiect REPAIR, Blanche Cameron (Coleg Prifysgol Llundain) a Martyna Surma (Prifysgol Abertawe) â’r datblygiad ar 13 Gorffennaf i weld y cynnydd sydd wedi digwydd ac i fyfyrio ar sut mae’r weledigaeth ar gyfer byw bioffilig yn cael ei gwireddu.
O’r gatiau mynediad crefftus i’r fflatiau llawn golau, toeau gwyrdd a gerddi balconi, roedd yr ymweliad yn tynnu sylw at greu cartrefi sy’n cryfhau cysylltiad pobl â natur. Mae’r nodweddion hyn yn adlewyrchu uchelgais gyffredin y darparwr tai cymdeithasol Codi a’r datblygwr Hacer i ymgorffori dyluniad bioffilig drwy gydol y datblygiad.
Roedd yr ymweliad hefyd yn ategu ymchwil barhaus REPAIR i wireddu bodolaeth y Biome. Mae Blanche a Martyna yn archwilio’r cyfleoedd a’r heriau sy’n gysylltiedig â dylunio, adeiladu a gofalu am ddatblygiad bioffilig, gyda’r nod o ddysgu gwersi i lywio prosiectau ôl-osod yn y dyfodol a mabwysiadu atebion seiliedig ar natur yn ehangach.
Wrth i’r Biome symud i’r cam nesaf, bydd Prosiect REPAIR yn parhau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid i ddeall nid yn unig sut mae’r adeilad yn perfformio, ond hefyd sut mae pobl yn profi byw, gweithio a rhyngweithio o fewn yr amgylchedd unigryw hwn. Bydd y mewnwelediadau a gafwyd yn helpu i lywio dulliau yn y dyfodol o addasu i’r hinsawdd, cymdogaethau iachach a byw bioffilig yn Abertawe a thu hwnt.