Archwilio Byw Bioffilig Drwy Decstilau
8 Gorffennaf 2026
Ym mis Chwefror 2026, cynhaliodd Oriel Mission yn Abertawe weithdy tecstilau creadigol dan arweiniad yr artist Safiyyah Azraa Altaf, gan wahodd cyfranogwyr i archwilio syniadau am fyw bioffilig drwy wneud, sgwrs a chreadigrwydd.
Gan weithio gyda ffabrigau wedi’u hailgylchu ac amrywiaeth o dechnegau pwytho ac addurno, creodd cyfranogwyr ddarnau tecstilau wedi’u hysbrydoli gan natur, lle a chymuned. Drwy gydol y gweithdy, roedd sgyrsiau yn ystyried sut gallai Abertawe fwy bioffilig edrych, a sut y gall arfer creadigol ein helpu ni i ddychmygu dyfodol iachach, mwy cynaliadwy.
Gan ddefnyddio ei harfer creadigol ei hun fel ysbrydoliaeth, anogodd Safiyyah y cyfranogwyr i edrych yn wahanol ar y straeon ynghlwm wrth dirweddau, treftadaeth ac amgylchedd bob dydd Abertawe. Gan bwyso ar natur a’r ddinas o’u cwmpas, defnyddiodd cyfranogwyr ffabrigau wedi’u hailgylchu i greu darnau tecstilau unigryw a oedd yn adlewyrchu eu profiadau a’u safbwyntiau eu hunain.
Wrth fyfyrio ar y gweithdai, dywedodd Safiyyah:
“Roedd yn amgylchedd heb unrhyw fath o bwysau, lle roedd pawb yn gallu siarad am sut maen nhw’n gweld Abertawe a chreu cysylltiadau, y weithred o greu gyda’i gilydd a’r cysyniadau o fyw mewn dinas fioffilig ei ffocws. Daeth pob person â brwdfrydedd a chreadigrwydd, ac roedd yn wych gweld cyfranogwyr yn defnyddio’r hyn oedd y ddinas yn ei ysbrydoli ynddyn nhw i ddatblygu darnau unigryw gan ddefnyddio ffabrigau wedi’u hailgylchu.”
Roedd y gweithdy, a oedd yn rhan o raglen ehangach prosiect REPAIR o ymgysylltu â’r gymuned, yn dangos sut mae arfer creadigol yn gallu sbarduno sgyrsiau am ddyfodol ein dinasoedd. Drwy ddod â phobl at ei gilydd i fyfyrio ar berthynas Abertawe â natur, roedd cyfle i archwilio beth allai byw bioffilig ei olygu mewn cyd-destun trefol, ôl-ddiwydiannol.
About the artist
To find out more about artist Safiyyah Altaf's work, visit Sprig and Star Studio, follow @sprigandstar on Instagram, or contact her at altafsafiyyah@gmail.com.



