Ffocws Ar... Lowri Wilkie

3 Gorffennaf 2026

  1. Ymwneud â pha agwedd ar REPAIR ydych chi yn bennaf?

Rwy’n ymwneud yn bennaf â chynllunio ac ysgrifennu’r ymchwil seicoleg ar gyfer yr edefyn Perfformiad, gan ddod â phersbectif seicolegol i’r elfen honno o’r gwaith. Rwyf hefyd yn ymwneud yn agos â’r darn Perspective, y papur safbwynt sy’n crynhoi barn yr holl academyddion sy’n gweithio ar REPAIR mewn un datganiad ar y cyd.

  1. Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am y gwaith hwn?

Yr hyn sy’n fy nghyffroi fwyaf yw pa mor greadigol yw’r prosiect a chymaint mae’n cael ei arwain gan y celfyddydau a’r dyniaethau. O safbwynt rhywun sy’n dod o gefndir seicoleg, mae REPAIR wedi agor fy llygaid i wahanol ffyrdd o gyflawni’r academaidd. Yr hyn sydd wedi fy nharo’n arbennig yw’r ymagweddau creadigol at weithdai a’r dyfodol, gwahodd cyfranogwyr i ddychmygu dyfodol hinsawdd gwahanol, a’r pwyslais ar gyd-ddylunio a chynnwys pobl yn uniongyrchol wrth lunio’r gwaith.

  1. Beth mae byw bioffilig yn ei olygu i chi?

I fi, mae byw bioffilig yn golygu ymlyniad a chysylltiad â natur mewn ffordd ddwfn a pherthynol. Mae’n ymwneud ag ailgysylltu â’r elfen o’n cymeriadau sydd wedi mynd ar goll oherwydd bywyd cyfoes, ac ailadeiladu’r berthynas honno yn hytrach na thrin natur fel rhywbeth ar wahân i ni.

  1. Ydy’ch barn ar fyw bioffilig wedi newid ers ymuno â REPAIR?

Do, yn bendant. Mae’r newid mwyaf wedi digwydd o ran y syniad nad yw’n bosib dylunio bywyd bioffilig a’i drosglwyddo yn gyflawn ac yn barod. Mae’n rhaid iddo gael ei greu gan y bobl sy’n byw yno. Yn enwedig mewn lleoliad trefol, mae angen i breswylwyr ei drafod, ei rannu a’i ddarganfod drwy gydweithio, yn hytrach na chymryd yn ganiataol y bydd yn digwydd yn awtomatig unwaith y mae’r adeilad yn bodoli.

  1. Beth yw eich profiad mwyaf cofiadwy o REPAIR hyd yn hyn?

Fy mhrofiad mwyaf cofiadwy yw un o’r gweithdai creadigol am y dyfodol ar un o’n diwrnodau myfyriol. Gofynnwyd i ni ddychmygu ein hunain yn y dyfodol, mewn byd lle roedd REPAIR wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac i ddychmygu sut gallai’r byd hwnnw a’i hinsawdd edrych. Fe wnaethon ni weithio mewn grwpiau, bron â bod yn chwarae rôl wrth weithio’n ffordd i’r dyfodol hwnnw gyda’n gilydd. Roedd yn dipyn o hwyl, ond yn arfer adfyfyriol gwirioneddol werthfawr hefyd.

  1. O’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy’r prosiect, beth sydd wedi’ch synnu fwyaf?

Y peth sydd wedi peri’r synod mwyaf i fi oedd gweld pa mor wahanol mae academyddion yn gweld y byd yn dibynnu ar ble maen nhw’n cychwyn, rhywbeth sy’n dod yn glir iawn unwaith y byddwch chi’n gweithio ar draws disgyblaethau sydd fel arfer yn cael eu haddysgu ar wahân. Ym maes seicoleg, er enghraifft, yr ymateb greddfol yn aml yw ymyrryd a newid pethau, ond mewn disgyblaethau eraill, y nod yw arsylwi yn hytrach na newid unrhyw beth. Mae sylwi ar y gwahaniaethau hynny wedi bod yn agoriad llygad go iawn.

  1. Beth sy’n rhoi’r mwynhad mwyaf i chi wrth weithio mewn tîm trawsddisgyblaethol?

Unwaith eto, y creadigrwydd, a’r ffordd y mae gweithio ar draws disgyblaethau yn agor ffyrdd newydd o feddwl yn fy meddwl i fy hun. Rwy’n credu hefyd god y byd academaidd yn ei grynswth, bron iawn, yn symud i gyfeiriad trawsddisgyblaethol, felly mae dysgu gweithio fel hyn yn teimlo’n bwysig iawn, ar gyfer y prosiect hwn ac yn ehangach.

  1. Beth yw’ch gobeithion chi ar gyfer dyfodol REPAIR?

Rwy’n gobeithio y bydd y cydweithio yn dal ati i fynd yn dda, a bod trigolion y Biome yn ymgartrefu ac yn dod i deimlo ymlyniad a chysylltiad gwirioneddol â natur. Ar lefel ehangach, rwy’n gobeithio y bydd REPAIR yn parhau i wella ein dealltwriaeth o’r hyn y mae byw bioffilig yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw mewn amgylcheddau trefol bellach, felly byddwn wrth fy modd yn gweld dyfodol lle rydyn ni i gyd yn fwy perthynol ac yn gysylltiedig â natur, ac mae dod o hyd i ffyrdd ymarferol o sicrhau hynny’n teimlo’n bwysig iawn i fi. Gobeithio y bydd REPAIR yn parhau i fod yn rhan o hynny.

  1. Soniwch am le ym myd natur sy’n bwysig i chi, a pham.

Mae’r môr yn bwysig iawn i fi, yn enwedig yn Abertawe ar benrhyn Gŵyr, sef ardal adeilad y Biome ei hun. Rydw i wedi byw ger y môr erioed, ac wrth fy modd yn nofio a syrffio, felly rwy’n teimlo cysylltiad cryf â’r dŵr. Mae edrych allan at y gorwel yn rhoi teimlad o fod yn gysylltiedig â’r môr mawr, a gweddill y byd. Mae’n hynod o iachusol.

Screenshot 2026-10-07 053221.png