Cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Cyntaf Prosiect REPAIR

15 Mehefin 2026

Mae prosiect REPAIR yn falch o gyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol cyntaf, sy’n myfyrio ar y cynnydd, partneriaethau, cyflawniadau a dysgu sydd wedi llunio blwyddyn gyntaf y prosiect.

Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o weledigaeth, nodau a gweithgareddau prosiect REPAIR, ynghyd â’r gwaith sydd wedi’i wneud o ran ymchwil, ymgysylltu, arfer creadigol a chyfnewid gwybodaeth. Mae hefyd yn archwilio’r heriau a wynebwyd yn ystod y flwyddyn gyntaf, y gwersi a ddysgwyd a’r blaenoriaethau a fydd yn arwain y prosiect i’w ail flwyddyn.

Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, sefydlodd REPAIR dîm trawsddisgyblaethol yn rhychwantu’r celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau, polisi, ymarfer a’r sector cymunedol. Mae’r prosiect wedi atgyfnerthu partneriaethau ledled Cymru a thu hwnt, wedi cyfrannu at Abertawe yn ymuno â’r Rhwydwaith Dinasoedd Bioffilig, wedi sicrhau cyllid ychwanegol ac wedi dechrau cynhyrchu tystiolaeth newydd i gefnogi bywyd bioffilig ac atebion sy’n seiliedig ar natur ar gyfer addasu i’r hinsawdd.

Fe fydden ni’n hoffi diolch i’r holl bartneriaid, cydweithwyr, cyfranogwyr a rhanddeiliaid sydd wedi cyfrannu at brosiect REPAIR yn ystod ei flwyddyn gyntaf. Mae eu hymrwymiad, eu creadigrwydd a’u cefnogaeth wedi helpu i osod sylfeini cadarn ar gyfer y gwaith sydd o’n blaenau.

Mae’r Adroddiad Blynyddol llawn ar gael isod.