Cyn y Biome: Hanes o Newid ar Stryd Rhydychen
17 Mehefin 2026
Pan fydd pobl yn meddwl am y Biome, maen nhw’n aml yn meddwl am y dyfodol. Ac eto mae gwledd o hanes ynghlwm wrth y safle sy’n ymestyn yn ôl am ganrifoedd.
Mae darlun o ddiwedd y 1700au yn dangos ardal o gaeau pori agored, gydag Abertawe wedi’i chanoli’n bennaf o amgylch Eglwys y Santes Fair a’r Castell. Lle mae pobl bellach yn byw, yn gweithio ac yn ymweld, roedd gwartheg yn pori ar un adeg, ac roedd cyrion y dref gryn bellter i ffwrdd.
Wrth i Abertawe dyfu yn ystod y 19eg ganrif, dechreuodd y dref ddatblygu’n raddol tua’r gorllewin. Erbyn y 1840au, roedd rhes o adeiladau wyneb cul ar y safle. Mae cyfeirlyfrau masnach hanesyddol yn datgelu bod dwy dafarn wrth wraidd y safle: y Joiners’ Arms a’r Maltsters’ Arms. O’u cwmpas, dechreuodd Stryd Rhydychen ddatblygu fel rhan fywiog o dref ar ei thyfiant.
Dros y degawdau canlynol, ymddangosodd cymysgedd amrywiol o fusnesau. Roedd gwerthwyr dillad, groseriaid, siopau melysion, gemyddion, gwerthwyr ffrwythau a gwneuthurwyr esgidiau i gyd yn masnachu o’r safle. Mae cofnodion hanesyddol yn rhoi cipolwg diddorol ar fywyd bob dydd y dref. Roedd un hysbyseb o 1875, yn chwilio am gynorthwyydd mewn siop ddillad, yn nodi bod angen i ymgeiswyr siarad Cymraeg, atgof o bwysigrwydd yr iaith yn Abertawe ar y pryd.
Esblygodd y ddwy dafarn hefyd. Daeth y Maltsters’ Arms yn Alexandra Hotel, a’r Joiners’ Arms yn Fairwood Hotel maes o law. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y safle’n ferw o brysurdeb. Gallai ymwelwyr aros mewn gwesty, prynu losin, ymweld â gemydd, torri eu gwallt neu gasglu nwyddau gan fasnachwyr lleol, i gyd heb orfod teithio fawr pellach na thafliad carreg.
Ond mae ambell hanes am y safle nad yw mor gadarnhaol. Yn ystod llifogydd difrifol ym 1888, gorlifodd dŵr i selerau eiddo ar hyd Stryd Rhydychen. Mae adroddiadau papurau newydd o’r cyfnod yn cyfeirio at ddŵr a charthion yn mynd i mewn i adeiladau, gan dynnu sylw at yr heriau amgylcheddol a fyddai’n wynebu tref ddiwydiannol a oedd yn ehangu’n gyflym.
Dechreuodd pennod newydd bwysig ym 1938 pan brynwyd gwestai’r Alexandra a’r Fairwood, ynghyd ag eiddo cyfagos, gan gwmni Woolworths. Cyn i’r gwaith ailddatblygu ddechrau, gwerthwyd cynnwys yr adeiladau mewn ocsiwn, gan gynnwys cownteri mahogani a byrddau biliards. Yn ddiweddarach y flwyddyn honno, agorodd siop newydd Woolworths ar y safle, gan ddod yn nodwedd gyfarwydd o fywyd dinas Abertawe am genedlaethau.
Goroesodd y siop drwy flynyddoedd y rhyfel yn Abertawe, a chafodd ei hailddatblygu’n sylweddol yn ystod y 1960au. Wedi iddi ailagor ym 1967, roedd y siop ar ei newydd wedd yn cynnig bwyd, dillad, nwyddau cartref a bar te, a gwasanaethodd y ddinas am ddegawdau. Ar ôl cau Woolworths, trodd yr adeilad yn siop Poundland yn ddiweddarach.
Erbyn hyn, mae’r safle wedi dechrau pennod newydd arall yn ei hanes hir. Er bod yr adeiladau a’r busnesau wedi newid dros amser, mae’r lleoliad wedi parhau yn rhan bwysig o stori Abertawe. O dir pori gwledig a thafarndai Fictoraidd i westai, siopau adrannol a’r Biome, mae pob cenhedlaeth wedi gadael ei marc ar y gornel fach hon o’r ddinas.
Wrth i’r Biome ddechrau ei stori ei hun, mae’n sicrhau rhan fach o hanes llawer hirach o newid, addasu ac adnewyddu.