UNESCO-MOST BRIDGES yn Cyhoeddi Cyflwyniad REPAIR
28 Gorffennaf 2026
Yn ddiweddar, cyhoeddodd UNESCO-MOST BRIDGES gyflwyniad gan yr Athro Kirsti Bohata am Brosiect REPAIR a’i ymagwedd at fyw bioffilig.
Yn y cyflwyniad, mae Kirsti yn amlinellu gweledigaeth REPAIR, gan esbonio sut mae’r prosiect yn dod ag ymchwilwyr, partneriaid a chymunedau ynghyd i archwilio llefydd iachach, mwy gwydn a mwy cynaliadwy drwy gydweithredu trawsddisgyblaethol. Mae’r cyflwyniad hefyd yn cyflwyno’r Biome yn Abertawe a methodoleg ymchwil plethedig REPAIR.
Er i’r cyflwyniad gael ei recordio’n wreiddiol dros flwyddyn yn ôl, dim ond yn ddiweddar y cafodd ei gyhoeddi gan UNESCO-MOST BRIDGES ac mae bellach ar gael i’w wylio ar sianel YouTube y sefydliad.