Imagining Biophilic Futures at the Climate Science Fiction Symposium

5 Awst 2026

Yn ddiweddar, bu ymchwilydd Prosiect REPAIR, Dr Chris Pak (Prifysgol Abertawe), yn rhoi cyflwyniad mewn symposiwm ffuglen wyddonol yn ymwneud â hinsawdd, a drefnwyd gan Rwydwaith Ffuglen Wyddonol Zurich. Daeth y symposiwm ag ymchwilwyr o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i archwilio sut mae adrodd straeon synfyfyriol yn gallu helpu pobl i ddychmygu ac ymateb i heriau amgylcheddol yn y dyfodol.

Roedd cyflwyniad Chris, ‘Imagining Biophilic Design: Telling Stories about the Future of Sustainable Architecture,’ yn rhoi sylw i’r gwaith arloesol sy’n cael ei wneud drwy edefyn Myfyrio (Dyfodoleg) REPAIR. Roedd yn archwilio sut mae adrodd straeon yn gallu annog pobl i ddychmygu dyfodol amgen ac ysgogi sgyrsiau newydd am bensaernïaeth gynaliadwy, byw bioffilig a gwytnwch i effeithiau newid hinsawdd.

Cyflwynodd ymagwedd drawsddisgyblaethol Prosiect REPAIR, gan ddod ag arbenigedd o’r celfyddydau, y dyniaethau, gwyddorau’r amgylchedd a’r gwyddorau cymdeithasol ynghyd o gwmpas y Biome, gwaith ôl-osod bioffilig arloesol Abertawe.

Esboniodd Chris sut mae chwe edefyn ymchwil rhyng-gysylltiedig y prosiect yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio nid yn unig sut mae amgylcheddau bioffilig yn perfformio, ond hefyd sut maen nhw’n cael eu profi, eu dehongli a’u deall gan y bobl sy’n dylunio, adeiladu, byw ac yn rhyngweithio â nhw.

Wrth graidd y cyflwyniad roedd gweithdai dyfodol cymunedol REPAIR, lle mae cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i ddychmygu Abertawe yn y dyfodol drwy adrodd straeon synfyfyriol a gweithgareddau creadigol. Yn hytrach na cheisio rhagweld y dyfodol, mae’r gweithdai hyn yn annog cyfranogwyr i fyfyrio ar y dewisiadau sy’n cael eu gwneud heddiw ac i ystyried y mathau o lefydd maen nhw eisiau i genedlaethau’r dyfodol eu hetifeddu. Dangosodd Chris hefyd sut mae adrodd straeon synfyfyriol yn gallu creu lle i archwilio gwahanol bosibiliadau ar gyfer byw bioffilig. Drwy ddatblygu senarios dychmygus yn y dyfodol, mae cyfranogwyr yn cael eu hannog i gwestiynu rhagdybiaethau, archwilio safbwyntiau amgen a meddwl yn greadigol am sut gallai pobl, natur a’r amgylchedd adeiledig gydfodoli mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

Mae’r cyflwyniad yn tynnu sylw at y cyfraniad pwysig y gallai ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau ei wneud i drafodaethau am addasu i’r hinsawdd ac adfywio trefol. Drwy gyfuno dulliau creadigol ag ymchwil drawsddisgyblaethol, mae Prosiect REPAIR yn helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o ddychmygu, trafod a llunio dyfodol iachach, mwy gwydn a chysylltiedig â natur.