Project REPAIR Research Presented at International Science Fiction Conference

4 Awst 2026

Yn ddiweddar, cyflwynodd ymchwilydd Prosiect REPAIR, Dr Chris Pak (Prifysgol Abertawe), ymchwil yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ymchwil Ffuglen Wyddonol (SFRA) 2026, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Talaith Michigan, UDA https://sfra.org/. Drwy ddod â chymuned ryngwladol o ymchwilwyr, awduron ac ymarferwyr at ei gilydd, archwiliodd y gynhadledd y thema ‘Into the Slipstream: Watering Futures’, gan archwilio sut gall meddwl synfyfyriol helpu i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol cyfoes.

Cyflwynodd Chris bapur gyda’r pennawd ‘Retrofitting for the Future: Nature-based Solutions for Climate Resilience’ fel rhan o banel ‘Seilweithiau y Tir a’r Môr a Bywyd Ymylol.’

Roedd ei gyflwyniad yn archwilio sut mae ffuglen wyddonol a meddwl synfyfyriol yn gallu’n helpu ni i ail-ddychmygu ymatebion i newid hinsawdd, gan bwyso ar fewnwelediadau o Brosiect REPAIR i ystyried sut mae datrysiadau seiliedig ar natur a dulliau bioffilig yn gallu cyfrannu at lefydd iachach, mwy gwydn. Drwy gysylltu ymchwil o’r celfyddydau a’r dyniaethau â heriau amgylcheddol a chymdeithasol, tynnodd y cyflwyniad sylw at werth ymchwil trawsddisgyblaethol wrth lunio dyfodol mwy cynaliadwy.

Roedd Chris hefyd yn cadeirio Sesiwn Gweledigaeth a Chefnogaeth y gynhadledd, a ddaeth â siaradwyr rhyngwladol ynghyd i drafod sut mae ffuglen wyddonol a meddwl am ddyfodoleg yn gallu hwyluso ymgysylltu â’r cyhoedd ac ymgyrchu i lywio prosesau gwneud penderfyniadau a newid cymdeithasol.

Fel Is-lywydd y Gymdeithas Ymchwil Ffuglen Wyddonol, mae cyfranogiad Chris yn adlewyrchu proffil rhyngwladol cynyddol Prosiect REPAIR ac yn dangos sut mae ymchwil y prosiect yn cyfrannu at sgyrsiau sy’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau disgyblaethol traddodiadol.

Mae cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol yn gyfle pwysig i rannu dull trawsddisgyblaethol Prosiect REPAIR, meithrin cydweithrediadau newydd, a dangos sut mae ymchwil y celfyddydau a’r dyniaethau yn cyfrannu at ddatblygu ymatebion arloesol i’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.