£3million Award from the Arts and Humanities Research Council to Fund 4-year Project on Biophilic Living
Bydd gwobr fawr gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) yn ariannu prosiect 4 blynedd ar fyw bioffilig.
Bydd academyddion o Brifysgol Abertawe, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn gweithio gyda chyd-arweinwyr cymdeithasol Hacer Developments Ltd, Grŵp Pobl, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Dinas a Sir Abertawe a phartneriaid eraill.
Mae’r prosiect hwn yn rhoi pobl a natur wrth wraidd adfywio canol y ddinas a bydd yn ystyried sut gall dulliau bioffilig o ôl-osod helpu dinasoedd i addasu i’r argyfwng hinsawdd a natur.
Mae’r prosiect pedair blynedd yn un o ddim ond tair ledled y DU a ddewiswyd ar gyfer cyllid drwy Wobrau Cenhadaeth newydd yr AHRC. Mae’r prosiect, o’r enw ‘Ôl-osod ar Gyfer y Dyfodol – Atebion Seiliedig ar Natur ar gyfer Addasu i’r Hinsawdd’, yn archwilio dimensiynau diwylliannol, cymdeithasol ac ecolegol ôl-osod bioffilig a’i rôl o ran addasu i’r hinsawdd ac adfer natur. Yn benodol, bydd yn nodi’r heriau rheoleiddiol a dynol-ganolog sy’n rhwystro dylunio bioffilig rhag cael ei fabwysiadu’n eang ac yn darparu llwybrau seiliedig ar dystiolaeth y gellir eu hefelychu ar gyfer addasu ac ôl-osod trefol bioffilig.
Mae graddfa a chymhlethdod yr her i addasu mannau trefol ar gyfer natur, iechyd a hinsawdd yn gofyn am ddulliau newydd. Mae’r ymchwiliad hwn yn dwyn ynghyd ymchwilwyr yn y celfyddydau, y dyniaethau a’r gwyddorau i weithio ochr yn ochr â phartneriaid cymdeithasol ym meysydd tai cymdeithasol, adeiladu, adfer natur drefol a seilwaith gwyrdd. Bydd ein tîm amlddisgyblaethol yn gweithio gyda dinasyddion a phartneriaid rhyngwladol a lleol ym maes iechyd, menter, y celfyddydau, llywodraeth, polisi, a’r mudiad bioffilig byd-eang i lunio, rhannu a gweithredu ein canfyddiadau.
Wrth wraidd yr ymchwiliad trawsddisgyblaethol hwn mae’r celfyddydau, y dyniaethau a chyd-greu. Mae arbenigwyr ym meysydd ysgrifennu creadigol, dylunio, pensaernïaeth, hanes, y gyfraith, anthropoleg, seicoleg ac ecoleg yn cydweithio â phartneriaid cymdeithasol o feysydd tai cymdeithasol, adeiladu, adfer natur drefol a seilwaith gwyrdd i gyd-ddiffinio ein hagenda ymchwil.
Bydd ein partneriaid lleol a rhyngwladol ym meysydd iechyd, y celfyddydau, llywodraeth, datblygu economaidd a’r mudiad bioffilig byd-eang yn llunio, rhannu a gweithredu ein canfyddiadau. Drwy arweinyddiaeth gydweithredol, dysgu adfyfyriol a llywodraethu cynhwysol, bydd ein dull ymgynnull tîm yn cefnogi nodau trawsddisgyblaethol ein hymchwil.
Bydd y gwaith ymchwil hwnnw’n canolbwyntio ar ‘Biome’, gwaith ôl-osod bioffilig unigryw 13 llawr yn Abertawe sy’n cynnwys tai cymdeithasol, gofod swyddfa, cyfleusterau manwerthu a mannau cymunedol. Byddwn yn gosod yr adeilad yn ei gyd-destunau lleol a chenedlaethol, gan archwilio’i daith o hen siop Woolworths i amgylchedd ffyniannus ‘byw, gweithio, chwarae’, ar y stryd fawr. Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Bydd yn nodi materion rheoleiddio a pholisi sy’n herio cyflenwi bioffilig yn y DU ac yn rhyngwladol. Gan ddefnyddio dulliau cymysg, ailadroddus a chydweithredol, byddwn yn mapio ac yn gwerthuso profiadau pobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr adeilad, yn ogystal â sgileffeithiau’r adeilad ar y rhanbarth. Bydd perfformiad yr adeilad yn cael ei fonitro gan dechnegwyr a gwyddonwyr ddinasyddion, gydag ymatebion y cyhoedd i’r data hwn yn cael eu harchwilio. Bydd artistiaid, pobl greadigol, cymunedau amrywiol, ysgolion, llunwyr polisi a grwpiau buddiant eraill sy’n gysylltiedig â’r adeilad yn rhannu eu profiadau a’u gweledigaethau ar gyfer amgylcheddau trefol yn y dyfodol, gan greu mewnwelediadau newydd a heriau ymchwil, a fydd yn cael eu hintegreiddio i archwiliad y prosiect o fyw trefol bioffilig.
Bydd allbynnau’r prosiect yn cynnwys offer a fframweithiau i fynd i’r afael â rhwystrau a darparu llwybrau i addasu bioffilig. Bydd y rhain yn cynnwys briffiau polisi, cardiau sgorio bioffilig, fframweithiau dylunio, mapiau sgiliau, deunyddiau cwricwlwm, gwaith creadigol a symposia rhyngwladol, rhwydweithiau a chyhoeddiadau trawsddisgyblaethol. Nod yr astudiaeth achos fanwl hon yw cymell newid diwylliant traws-sector a chyflymu’r symudiad byd-eang tuag at fyw bioffilig cynhwysol yn gymdeithasol, gan gyfrannu at les y ddynoliaeth a’r blaned.
Mae’r prosiect yn rhan o fenter newydd gan yr AHRC sy’n canolbwyntio ar waith tîm ac arweinyddiaeth gyffredin, yn hytrach na modelau ymchwil traddodiadol o’r brig i lawr, yn seiliedig ar egwyddorion Cynnull Tîm a ddatblygwyd gan brosiect Thrive Prifysgol Lerpwl.
Meddai Kirsti Bohata, Athro Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe, a arweiniodd y cais: “Rwy’n falch iawn o fod yn gweithio gyda grŵp mor dalentog o ymchwilwyr a phartneriaid cymdeithasol. Mae’r prosiect hwn yn dangos sut y gall y celfyddydau a’r dyniaethau fynd i’r afael â heriau mawr a gwella bywydau. Mae’n gyffrous cael bod yn un o’r timau cyntaf i gael eu hariannu drwy’r cynllun newydd beiddgar hwn gan yr AHRC.”
Dywedodd Carwyn Davies o Hacer Developments: “Mae prosiect Byw Bioffilig yn fenter wirioneddol unigryw sydd â’r potensial i drawsnewid sut rydyn ni’n llunio ein hamgylcheddau trefol. Drwy roi iechyd, lles a chynaliadwyedd wrth wraidd y cysyniad, ein nod yw creu mannau sydd nid yn unig yn swyddogaethol ond hefyd yn feithringar i’r rhai sy’n byw ac yn gweithio ynddyn nhw. Mae’r wobr hon yn nodi cymeradwyaeth sylweddol o weledigaeth ac effaith bosibl byw bioffilig. Ni ellir gorbwysleisio’r cyfleoedd y mae’n eu creu ar gyfer arloesi, cydweithredu a newid cadarnhaol hirdymor.”
Meddai Andrew Stevens, aelod cabinet Cyngor Abertawe ar faterion yr amgylchedd a seilwaith: ”Rydyn ni’n falch o gefnogi’r prosiect cyffrous hwn. Bydd Biome – yr adeilad byw – yn lleoliad ysbrydoledig i’r bobl a fydd yn byw ac yn gweithio yno. Mae’n enghraifft wych o sut mae cynllun adfywio £1bn dan arweiniad y cyngor yn mynd rhagddo’n sydyn, gyda ffocws cryf ar arloesi gwyrdd”
Dywedodd Andrew Vye, Cyfarwyddwr Gweithredol Cwsmeriaid a Chymunedau – Grŵp Pobl: “Mae’r broses wrth wraidd datblygu’r rhaglen ymchwil hon eisoes wedi dechrau tynnu sylw at ffyrdd gwell i’r byd academaidd a diwydiant ymchwilio i newidiadau cymdeithasol a diwylliannol. Mae Biome yn adeilad sy’n arwain y byd, yma yn Abertawe, mae’n amseriad perffaith i AHRC gynnig y lefel hon o fuddsoddiad fel ein bod ni, fel sector a chymdeithas, yn gallu gwella ein gwybodaeth a rhannu dysgu, a galluogi adferiad natur cynyddol mewn mannau trefol.”
Dywedodd Fran Rolfe, arbenigwr seilwaith gwyrdd Cyfoeth Naturiol Cymru: “Dyma brosiect gwirioneddol gyffrous ac ysbrydoledig i fod yn rhan ohono ac yn un y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn edrych ymlaen at chwarae rhan ynddo. Rwy’n eiriolwr cryf dros unrhyw beth sy’n gallu dod â phobl a natur yn nes at ei gilydd yn ein hardaloedd trefol fel canol dinas Abertawe ac rwy’n hyderus y bydd astudiaeth achos Biome yn dod â’r ddinas gam yn nes at weithredu fel sbwng sy’n cynorthwyo i leihau llifogydd ac annog bioamrywiaeth.”
Dywedodd yr Athro Cysylltiol Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Clymblaid Fyd-Eang UNESCO-MOST BRIDGES, y Drindod Dewi Sant: “Mae ôl-osod ar gyfer y dyfodol yn gam cyffrous ymlaen, sy’n cyd-fynd yn berffaith ag egwyddorion ac uchelgeisiau UNESCO-MOST BRIDGES, sy’n hyrwyddo gweledigaeth feiddgar ar gyfer datblygu trefol cynaliadwy yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn ecolegol. Mae hyn yn fwy na dim ond ail-lunio dinasoedd, mae’n ymwneud ag ail-ddychmygu sut rydyn ni’n byw ynddyn nhw, yn strwythurol ac yn emosiynol. Gyda ffocws cryf ar gyd-greu a phrofiad byw, rydyn ni’n sicrhau bod lleisiau trigolion, pobl greadigol a chymunedau ar flaen y gad wrth lunio dyfodol bywyd trefol. Nid glasbrint ar gyfer ôl-osod adeiladau yn unig yw’r prosiect hwn; mae’n gyfle cyffrous i drawsnewid ein perthynas â natur, ein gilydd a’r systemau sy’n ein llywodraethu.”
Dywedodd Blanche Cameron, Athro Cysylltiol Dylunio Amgylcheddol yn Ysgol Pensaernïaeth Bartlett, Coleg Prifysgol Llundain: “Wrth i’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol ddwysáu, mae astudio’r Biome yn gyfle gwirioneddol i ddeall sut i oresgyn heriau gwyrdd dinasoedd, a gweithio gyda natur i wella bywydau pobl, mewn cymaint o ffyrdd. Mae angen mwy o gynefinoedd bywyd gwyllt ar ddinasoedd ym mhob man, fel toeau gwyrdd, gerddi glaw a mannau gwyrdd bioamrywiol i amsugno’r glaw a chadw pobl yn oer yn y gwres, ynghyd â’r swyddi i’w dylunio, eu gosod a gofalu amdanyn nhw. Rwy’n edrych ymlaen at weld cymwysiadau ymarferol ac effeithiau’r gwaith yn helpu’r amgylchedd adeiledig a sectorau eraill i gefnogi’r mudiad byd-eang ar gyfer llefydd mwy bioamrywiol, sy’n gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd ac sy’n cynnig tegwch i bawb.”
TROSOLWG
Hyd y prosiect: 1 Mai 2025 – 30 Ebrill 2029
Cyfanswm Cyllideb y Prosiect: £3m dros 4 blynedd
Partneriaid y Brifysgol: Prifysgol Abertawe (prifysgol arweiniol), Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (y Drindod Dewi Sant) a Choleg Prifysgol Llundain (UCL).
Cyd-arweinwyr Cymdeithasol: Cyngor Dinas a Sir Abertawe, Hacer Developments Ltd, Cyfoeth Naturiol Cymru, Grŵp Pobl Mae Partneriaid Cymdeithasol (gan gynnwys rolau cynghori) yn cynnwys: Cyngor Celfyddydau Cymru, Blake Morgan, Bridgman & Bridgman, Emergence, Ffederasiwn Ewropeaidd Cymdeithasau Toeau Gwyrdd a Waliau Byw – EFB, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Coleg Gŵyr Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Inner Development Goals, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Purposeful Places, Ysgol Gynradd San Helen, Bargen Ddinesig Bae Abertawe, Prifysgol A&M Texas-Corpus Christi, Y Sefydliad Bioffilig, Yr Ymgynghoriaeth Seilwaith Gwyrdd, UNESCO-MOST BRIDGES, Urban Foundry, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr, Jane Davidson, y Drindod Dewi Sant, Joanne Patterson Prifysgol Caerdydd, Carolyn Hayles, Prifysgol Metropolitan Caerdydd.