Spotlight On... Luci Attala

C1. Ymwneud â pha agwedd ar REPAIR ydych chi yn bennaf?

Rwy’n cyd-arwain yr edefyn Profiad Bywyd, sy’n ymwneud â sut mae pobl yn profi bywyd bioffilig. Mae’r edefyn yn defnyddio ystod o ddulliau o wahanol ddisgyblaethau, anthropoleg yn eu plith. Mae anthropoleg yn defnyddio sgwrsio anffurfiol ac ymgolli dwfn mewn cymunedau, felly drwy dreulio amser gyda phobl sy’n byw yn yr adeilad a gwrando ar eu profiadau a chlywed beth maen nhw’n meddwl sy’n gweithio ai peidio, gallwn greu darlun cliriach o realiti byw bioffilig yn y BIOME. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall ble i wneud gwelliannau a beth sy’n llesteirio mabwysiadu’r dull hwn o fyw – a bydd hynny’n esgor ar dystiolaeth i lywio datblygiadau a phenderfyniadau polisi yn y dyfodol.

C2. Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am eich gwaith?

Pobl! Pobl, bob amser. Rydw i bob amser yn synnu at y mewnwelediadau y mae pobl yn eu cynnig a’u parodrwydd i’w rhannu. Mae pawb yn gweld pethau’n wahanol ac mae deall y gwahanol safbwyntiau hyn yn caniatáu i ni weld darlun mwy cyflawn o sut mae pobl yn byw ac yn gadael i’r hyn maen nhw’n ei gredu i ddod i’r amlwg. O ran y prosiect hwn yn benodol: mae’n anrhydedd cael bod yn rhan o rywbeth sydd â’r potensial i wella bywydau pobl yn syth bin. Mae’n wych gallu cynhyrchu buddion go iawn i unigolion a chymunedau. Ar adeg pan mae angen rhoi sylw brys i gymaint o heriau cymdeithasol ac amgylcheddol, rwy’n credu y dylai ymchwil ymdrechu i gynhyrchu canlyniadau ystyrlon ac amlwg yn y byd go iawn – ac rwy’n credu bod y prosiect hwn yn gwneud hynny.

C3. Beth mae byw bioffilig yn ei olygu i chi?

Mae’r gair bioffilig yn golygu caru bywyd. Wrth gwrs, mae’n bosib dehongli hyn mewn sawl ffordd. Mae dylunio bioffilig, ar y llaw arall, yn awgrymu bod adeiladau - sydd wedi’u cynllunio a’u hadeiladu gyda deunyddiau organig, wedi’u llunio o siapiau organig ac sy’n dod o hyd i ffyrdd o ddiddymu rhwystrau ffisegol rhwng pobl a’r amgylchedd naturiol - yn well i’n hiechyd. Mae’r BIOME yn creu perthynas rhwng y trigolion a phlanhigion a ffurfiau mwy organig. Rydyn ni eto i weld beth fydd hynny’n ei wneud. Er bod tystiolaeth gynyddol i ategu manteision amgylcheddau bioffilig, mae deall sut mae’r nodweddion hyn yn cael eu profi mewn bywyd bob dydd yn parhau i fod yn faes pwysig o’n hymchwil. Yn bersonol, mae gen i lawer iawn i’w ddweud wrth blanhigion ac rydw i wrth fy modd yn tyfu llysiau. Mae cael pridd o dan fy ewinedd yn fy ngwneud i’n hapus. Ond rwy’n gwybod nad dyna sut mae pawb yn teimlo am ddwylo budr! Mae bron yn amhosibl osgoi deunyddiau artiffisial, ond rwy’n gwneud fy ngorau i osgoi plastigau ac ati gartref.

C4. Ydy’ch barn ar fyw bioffilig wedi newid ers ymuno â REPAIR?

Ddim mewn ffordd ddramatig, ond do. Rwy’n gallu gweld faint o gyfaddawdu sydd ei angen i’w wireddu mewn lleoliad hynod drefol. Rydw i hefyd yn gallu gweld – yn wahanol i eiriolwyr y math hwn o fyw – nad yw ar gyfer pawb, ac mae’n rhaid i ni dderbyn gwahaniaethau os ydyn ni am fyw gyda’n gilydd yn dda. Felly, mae’r prosiect wedi amlygu’r cymhlethdod sy’n gysylltiedig â chymhwyso egwyddorion bioffilig yn ymarferol. Un o’r gwersi allweddol hyd yma yw cydnabod bod rhaid i ddulliau llwyddiannus o fyw mewn ffordd gynaliadwy barhau i ystyried gwahaniaeth a chynhwysiant yn hytrach na chymryd yn ganiataol y bydd un model yn addas i bawb. Mae sut i wneud hyn yn gofyn am gydbwysedd gofalus – neu gydbwysedd llawn gofal, sy’n cydnabod gwahanol ddiwylliannau, ac mae angen canolbwyntio llai ar yr hyn y mae academyddion yn ei ddychmygu sydd ei angen ar y cyhoedd a mwy ar weithio allan sut mae cyd-fyw yn edrych yn ymarferol.

C5. O’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu drwy’r prosiect, beth sydd wedi’ch synnu fwyaf?

Un o’r pethau mwyaf trawiadol yw i ba raddau y mae prosesau sefydliadol weithiau’n gallu cyfyngu ar arloesi, yn aml yng nghyd-destun rheoli risg a sicrhau cydymffurfio. Ar yr un pryd, rydw i wedi cael fy nghalonogi gan barodrwydd llawer o bobl i newid – yn yr achos hwn, y math o newid sy’n gallu lleddfu unigrwydd bywyd trefol cyfoes ac yn gwneud i bobl deimlo’n ddefnyddiol ac yn gysylltiedig. Cyn belled ag y gallaf ddweud, mae hyn yn awgrymu bod awydd sylweddol am ddulliau sy’n mynd i’r afael â heriau amgylcheddol a chymdeithasol ar yr un pryd. Mae dod â bywyd i ganol dinasoedd yn tueddu i ganolbwyntio ar economeg (hynny weithiau yn cael ei fframio fel ‘gwneud bywoliaeth’) – mae meddylfryd bioffilig yn annog denu bioamrywiaeth, yn llythrennol pethau sy’n fyw – i fannau trefol, gan symud y sgwrs a’n hatgoffa bod dinasoedd yn gallu cynnal bywoliaeth a bywyd ei hun.

C6. Beth sy’n rhoi’r mwynhad mwyaf i chi wrth weithio mewn tîm trawsddisgyblaethol?

Y mwynhad mwyaf? Roeddwn i’n meddwl y byddech chi’n gofyn beth sy’n rhoi’r her fwyaf! :-)

Mae’r ddealltwriaeth o weithio trawsddisgyblaethol yn wahanol iawn, yn dibynnu ar y lleoliad. Mae’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn ddull sy’n cael ei argymell gan y Cyngor Gwyddoniaeth Rhyngwladol ac mae’n eithaf radical, oherwydd mae’n ymwneud â mwy na dim ond cael gafael ar ychydig o wybodaeth gan y cyhoedd neu gymdeithas sifil; mae’n ymwneud â gweithio ochr yn ochr â phartneriaid cymdeithasol mewn ffyrdd ystyrlon o’r cychwyn cyntaf. Y rhesymeg y tu ôl i hyn yw bod y cyhoedd yn debygol o fod yn fwy parod i fabwysiadu atebion sy’n codi drwy gydweithrediad go iawn. Rydyn ni angen hynny! Yn aml, mae ymchwilwyr yn llunio casgliadau am y cyhoedd heb fawr o ystyriaeth iddyn nhw na’u dymuniadau – ond wedyn yn rhyfeddu pan fydd y cyhoedd yn gwrthwynebu eu hawgrymiadau. Pwy fyddai’n meddwl? Mae’r ffordd rydyn ni’n gweithio yn cydnabod ein bod ni yn y byd hwn gyda’n gilydd a bod angen i unrhyw newidiadau weithio i bawb.

C7. Beth ydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?

Rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae’r trigolion yn byw yn yr adeilad a beth fydd yr adeilad yn ei wneud i ganol Abertawe. Mae ganddo botensial go iawn i ychwanegu’n sylweddol at ganol y ddinas – yn dibynnu ar sut mae’n datblygu – ac rwy’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn ei gofleidio ac y bydd ei ddylanwad yn lledaenu ac yn gwella bywydau. Braidd yn ddelfrydol, rwy’n gwybod, ond oni fyddai’n wych, pe bai ymylon llwyd caled yr holl goncrit a tharmac yn cael eu meddalu gyda gwahanol ffurfiau a lliwiau a phe bai pobl yn croesawu harddwch ‘natur’ yng nghanol dinas ddiwydiannol?

Yn fwy cyffredinol, mae gen i ddiddordeb yng ngallu mentrau fel hyn i annog ffyrdd newydd o feddwl am fyw trefol a chryfhau cysylltiadau rhwng pobl a’r amgylchedd naturiol. Os bydd yn llwyddiannus, gallai ei ddylanwad ymestyn y tu hwnt i’r adeilad ei hun a chyfrannu at drafodaethau ehangach am ddinasoedd cynaliadwy a byw.

C8. Soniwch am le ym myd natur sy’n bwysig i chi, a pham.

Un o ganlyniadau bod yn anthropolegydd yw fy mod i wedi byw mewn sawl man. Ar hyn o bryd, rydw i yn Abertawe ac mae fy ngardd yn fy ysbrydoli. Mae’n fach ac yn anhrefnus ond mae’n cynhyrchu lliwiau, persawr a ffurfiau, ac ar ben hynny mae’n rhoi ffrwythau a llysiau i fi bob blwyddyn (pys, winwns, tatws, moron, ciwcymbrau, letys, ffa, cennin, corbwmpenni, perlysiau, tsilis, mefus, llus, grawnwin, ceirios, gellyg, afalau a mafon). Ac mae’n hafan fywiog, swnllyd i adar a chreaduriaid eraill sy’n pasio heibio. Mae’n rhoi llawenydd enfawr i fi. Yn yr erwau trist o laswellt plastig a cherrig palmant mae eraill yn eu ffafrio ar gyfer eu corneli ‘tu allan’, mae fy ngardd fach i’n teimlo fel paradwys. Os ydyn ni’n cael stiwardiaeth o le, rwy’n teimlo dyletswydd i’r lle hwnnw, mod i’n gofalu amdano, fel bod ein perthynas yn datblygu a’n bod ni’n tyfu gyda’n gilydd.