Green Thinking and Biophilic Futures: Baroness Natalie Bennett Visits Project REPAIR

20 Mai 2026

Ymwelodd y Farwnes Natalie Bennett, un o Arglwyddi’r Blaid Werdd a chyn-arweinydd y blaid, â Phrifysgol Abertawe i gyfarfod ag aelodau o brosiect REPAIR a thrafod yr heriau cymdeithasol ac amgylcheddol brys sy’n dylanwadu ar ddyfodol ein trefi a’n dinasoedd. 

Gan bwyso ar ei chefndir ym maes gwyddor amaethyddol, archwiliodd y berthynas rhwng cynaliadwyedd amgylcheddol, economeg a chyfiawnder cymdeithasol, gan dynnu sylw at waith arloesol Lynn Margulis a herio ymagweddau dominyddol at feddylfryd economaidd. Yn ystod y sgwrs, bu’n trafod themâu o’i llyfr diweddaraf, Green Thinking and Change Everything, gan rannu syniadau ar ffyrdd y gallai cymdeithas gefnogi pobl a’r blaned er mwyn sicrhau gwell ffyniant.

Ysgogodd y sesiwn drafodaethau eang ar bynciau amrywiol, gan gynnwys incwm sylfaenol cyffredinol, yr wythnos waith pedwar diwrnod, ffermio amaeth-ecolegol a democratiaeth ymgynghorol.

Yn dilyn y sgwrs, ymwelodd Natalie â’r BIOME yng nghwmni Arweinydd Prosiect REPAIR, yr Athro Kirsti Bohata, gyda’r trafodaethau’n parhau ynghylch byw’n fioffilig, ôl-osod a rôl dulliau seiliedig ar le wrth lunio cymunedau iachach a mwy cynaliadwy.