Ffocws Ar... Lucy Ralph

24 Awst 2026

  1. Ymwneud â pha agwedd ar REPAIR ydych chi yn bennaf?

Gan fy mod i’n gweithio i’r cwmni datblygu sy’n gyfrifol am adeiladu’r adeilad, rwy’n ymwneud yn bennaf â’r edefyn Perfformiad, gan gynorthwyo’r gwaith o fonitro systemau’r adeilad a deall adeiladwaith yr adeilad.

  1. Beth sy’n eich cyffroi fwyaf am y gwaith hwn?

Mae’n mynd i fod yn gyffrous casglu tystiolaeth go iawn i’w chymharu â systemau traddodiadol, gan ddangos sut gallwn ni symud tuag at ddyfodol carbon isel a dangos bod y dulliau hyn yn gweithio a bod modd eu hefelychu. Gallai’r dystiolaeth hon helpu i annog eraill i ddefnyddio dulliau tebyg, ac ar yr un pryd yn helpu i newid argraff y cyhoedd o seilwaith gwyrdd a meithrin hyder mewn datblygiadau sy’n digwydd ledled y ddinas.

Mae hwyluso newid drwy addysg, ochr yn ochr â chreu cynnyrch cynaliadwy, yn rhywbeth rydw i’n angerddol iawn yn ei gylch. Mae elfennau dynol ac addysgol y prosiect cyfan yn rhywbeth sy’n fy nghyffroi’n fawr. Byddwn yn cyfathrebu ein canfyddiadau i’r cyhoedd drwy sesiynau ymgysylltu, gweithdai ac arddangosfeydd o fewn yr adeilad, i alluogi ac arfogi pobl i feddwl a gweithredu’n wahanol ar eu lefel leol eu hunain, a defnyddio’r adeilad a’r ardaloedd cyfagos mewn ffordd fwy ystyriol.

  1. Beth mae byw bioffilig yn ei olygu i chi?

Mae byw bioffilig yn ddull aml-haenog o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’n cydnabod, drwy ystyried heriau amgylcheddol, ein bod ni hefyd yn gallu dechrau mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac economaidd ehangach. I fi, y prif air sy’n ei ddisgrifio yw cymuned. Un peth pwysig arall rwy’n hoffi ei nodi bob tro yw hyn: fe fyddai’n bosib i ni fod wedi gwneud pethau’n wahanol, ac mae’n wir y gallai camgymeriadau fod wedi cael eu gwneud, ond o leiaf rydyn ni wedi rhoi cynnig arni a mentro! A gyda’r argyfwng hinsawdd yn fater systemig mor amlochrog, mae angen pobl sy’n fodlon rhoi cynnig arni a mentro. Mae’n ysbrydoliaeth.

  1. Ydy’ch barn ar fyw bioffilig wedi newid ers ymuno â REPAIR?

Mae prosiect REPAIR wedi rhoi hwb pellach i’m hyder a’m cyffro ynglŷn â’r prosiect Byw Bioffilig. Mae’r ymchwil yn hanfodol er mwyn deall beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a sut gallwn ni ddal ati i wella. Mae hefyd yn cynhyrchu’r dystiolaeth angenrheidiol i gyfleu’r hyn sy’n cael ei gyflawni i bobl ar sawl lefel, o’r cyhoedd i’r diwydiant a’r llywodraeth, gan eu helpu i gymryd eu camau eu hunain a rhoi’r hyn rydyn ni’n ei ddysgu ar waith yn ehangach.

  1. Beth yw eich profiad mwyaf cofiadwy o REPAIR hyd yn hyn?

Y cyfarfod wyneb yn wyneb cyntaf yn y tŷ gwydr, mae’n debyg. Er nad oedd yr adeilad wedi’i orffen ar y pryd, roedd yn teimlo’n eithaf symbolaidd i fod yno ar ddechrau taith REPAIR. Uchafbwynt arall yw gweld y data bioamrywiaeth cychwynnol yn cael ei gasglu o’r toeau. Mae gweld natur yn dod o hyd i gartref bron cyn gynted ag y cafodd y gerddi eu gosod yn dangos pa mor hawdd yw integreiddio mwy o doeau gwyrdd yn ein dinasoedd a chreu amgylcheddau trefol lle mae pobl a natur yn gallu byw ochr yn ochr â’i gilydd.

  1. Beth sy’n rhoi’r mwynhad mwyaf i chi wrth weithio mewn tîm trawsddisgyblaethol?

Mae gweld a dysgu sut mae pobl eraill yn gweithio, ac amsugno darnau bach niferus o wahanol wybodaeth o wahanol broffesiynau, hyd yn oed drwy sgyrsiau achlysurol, wedi bod yn hyfryd, a hefyd yn ysbrydoledig iawn! Rydw i bob amser yn teimlo ymdeimlad newydd o hyder/cymhelliant ar ôl unrhyw gyfarfod.

  1. Beth yw eich gobeithion chi ar gyfer dyfodol REPAIR?

Rwy’n gobeithio y bydd yn gallu ennyn diddordeb gwirioneddol y cyhoedd a diwydiant. Mae’n ffordd mor arloesol a chyffrous o weithio, ac rwy’n credu y bydd yr ymchwil a’r wybodaeth sy’n cael ei chynhyrchu yn ysbrydoli eraill ac yn magu hyder yn y gwaith sy’n cael ei wneud yn Abertawe.

Gobeithio wedyn y bydd yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu yma yn gallu bod o fudd a dylanwadu ar ddatblygiadau ymhell y tu hwnt i’r ddinas.

  1. Soniwch am le ym myd natur sy’n bwysig i chi, a pham.

Mae hyn yn mynd i swnio’n dipyn o ystrydeb, efallai, ond fel rhywun sydd ddim yn hanu o Abertawe, rwy’n teimlo’n hynod lwcus i allu ymweld â chymaint o draethau hardd ar garreg y drws. Mae bod yno yn gwneud i fi deimlo’n wirioneddol ddiolchgar, ac mae’r manteision lles o dreulio amser ym myd natur yn ddiamheuol.

Mae fy ngardd yn lle arall sydd wedi dod yn fwyfwy pwysig i fi. Ers gweithio ar y prosiect, rydw i wedi dysgu cymaint am sut i fanteisio i’r eithaf ar ofod gwyrdd, sydd wedi fy ysbrydoli i geisio trawsnewid fy ngardd. Mae rhannau sylweddol ohoni’n goncrit – rwy’n rhentu, felly nid fy newis i oedd y concrit! – ond rydw i am fynd ati fwyfwy i chwarae fy rhan i ddod â natur yn ôl i’r ddinas.

Mae’r olygfa o'm hystafell hefyd yn fy ngwneud i’n hapus iawn, felly mae’r ffaith bod gan y Biome olygfa mor anhygoel yn fy ngwneud i’n hapus iawn hefyd!