Cyflwyniad Ymchwil REPAIR yng Nghynhadledd ‘Livable Cities’

25 Mehefin 2026

Yn ddiweddar, cyflwynodd ymchwilydd prosiect REPAIR, Martyna Surma, ei hymchwil yng nghynhadledd ‘Livable Cities’, a drefnwyd gan rwydwaith ymchwil AMPS (Pensaernïaeth, Cyfryngau, Gwleidyddiaeth, Cymdeithas).

Roedd cyflwyniad Martyna, Social Value as a Driver for Social Housing Projects Utilising Nature-based Solutions for Climate Adaptation, yn archwilio sut gall gwerth cymdeithasol helpu i lunio datblygiadau tai cymdeithasol sy’n ymgorffori atebion sy’n seiliedig ar natur i fynd i’r afael â newid hinsawdd, gan hefyd gefnogi cymunedau iachach, mwy gwydn.

Mae’r cyflwyniad yn adlewyrchu ymchwil ehangach prosiect REPAIR i fyw bioffilig a’r rôl mae atebion sy’n seiliedig ar natur yn gallu ei chwarae wrth greu llefydd sydd o fudd i bobl a’r amgylchedd. Mae rhannu’r gwaith hwn mewn cynadleddau rhyngwladol yn gyfle i gyfnewid syniadau, cyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddatblygu trefol cynaliadwy, a rhoi sylw i’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y tîm REPAIR.

Gallwch ddarganfod mwy am raglen y gynhadledd a chyflwyniad Martyna ar wefan cynhadledd ‘Livable Cities’.

https://amps-research.com/event/virtual-manchester-livable-cities/schedule/urban-ecologies-iii/social-value-as-a-driver-for-social-housing-projects-utilising-nature-based-solutions-for-climate-adaptation/