Ail-ddychmygu Abertawe drwy Lygaid Pobl Ifanc
Fel rhan o raglen ymgysylltu â’r gymuned REPAIR, bu dwy ysgol gynradd yn cymryd rhan mewn archwiliad creadigol o orffennol, presennol a dyfodol Abertawe.
Dechreuodd y disgyblion gyda thaith dywys o amgylch y ddinas, gan ymweld â safleoedd hanesyddol allweddol a myfyrio ar sut mae pobl a natur wedi llunio Abertawe dros amser. Drannoeth, yn y BIOME, bu’r plant yn gweithio gyda’r artist murlun Sion Tomos Owen i drawsnewid eu syniadau yn weithiau celf cydweithredol.
Drwy arlunio ac adrodd straeon, mynegodd y plant eu gweledigaethau ar gyfer dinas wyrddach, fwy cysylltiedig a chynaliadwy. Mae’r murluniau sy’n deillio o hynny’n cyfleu gobeithion ar gyfer y dyfodol ac yn dangos gwerth ymgysylltu â phobl ifanc mewn sgyrsiau am newid trefol.