Profiadau Bywyd o Adfywio Trefol Bioffilig
2 Ebrill 2026
Mae ymchwil blwyddyn gyntaf prosiect REPAIR yn tynnu sylw at fewnwelediadau pwysig o ran y profiad ymarferol o adfywio trefol bioffilig. Mae ymgysylltu â thrigolion, busnesau a rhanddeiliaid wedi datgelu:
- Ymatebion cymysg i ddatblygiadau bioffilig, gyda chefnogaeth gref i nodweddion amgylcheddol ond pryderon ynghylch tegwch cymdeithasol
- Heriau wrth addasu i dechnolegau newydd a nodweddion eco-ddylunio
- Awydd cryf am gysylltiad cymunedol, a hynny’n aml wedi’i gyfyngu gan rwystrau strwythurol
- Cyfleoedd cyfyngedig i breswylwyr ddylanwadu ar benderfyniadau dylunio. Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos tensiwn clir rhwng uchelgeisiau dylunio bioffilig a’u gweithredu’n ymarferol. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu cynnar ac ystyrlon, technolegau hawdd eu defnyddio a chefnogaeth barhaus er mwyn sicrhau bod datblygiadau’n gynhwysol, yn hygyrch ac yn ymatebol i brofiad bywyd.