Tara Crank
Rwy’n gwneud gwaith ymchwil i’r defnydd o offer digidol mewn rhaglenni lles cymunedol er mwyn hybu cysylltiad â natur yn Hwb Iechyd Gwyrdd Cynefin. Mae’n astudiaeth ymchwil gweithredol ethnograffig archwiliadol, lle rwy’n cydweithio â chymunedau lleol sy’n cyrchu cymorth lles ac arweinwyr awyr agored, i hwyluso cyrsiau sy’n integreiddio offer digidol fel camerâu bywyd gwyllt a meicroffonau arbenigol. Drwy Ddamcaniaeth Gweithgareddau, rwy’n ystyried offer digidol yn gyfryngwyr diwylliannol yn hytrach na gwrthrychau ynysig, sy’n bwysig o ran cydnabod eu dylanwad ar ein meddyliau ni, a dylanwad ein meddyliau ni arnyn nhw. Mae’r safbwynt hwn yn datgelu’r potensial sydd gan offer digidol creadigol o safbwynt rhaglenni ymatebol i natur. Mae fy ymchwil yn ymwneud â byw bioffilig, gan ei fod yn perthyn i batrwm salutogenig sy’n gweld iechyd fel rhywbeth i’w warchod a’i hyrwyddo, yn benodol drwy feithrin perthynas reolaidd â natur a chymuned. Ymhellach, mae’r ymchwil hon yn ymwneud ag atebion seiliedig ar natur, gan gynrychioli ymagwedd drawsnewidiol at iechyd sy’n ystyried adferiad lles dynol a lles y blaned fel pethau cydblethedig.