Beth yw REPAIR? 

Prosiect ymchwil trawsddisgyblaethol sy’n archwilio’r ffordd y mae dylunio bioffilig ac ôl-osod seiliedig ar natur yn gallu cefnogi gwydnwch i effeithiau newid hinsawdd, adferiad natur a lles dynol. 

Pam nawr? 

Mae cymunedau yn wynebu pwysau hinsawdd cynyddol – gwres, llifogydd, stormydd, sychder – a dirywiad o ran y gallu i gysylltu â natur. Mae mynd i’r afael â’r heriau hyn y tu hwnt i seilwaith traddodiadol yn unig. 

Ein ffocws 

Deall beth sy’n rhwystro a hwyluso byw bioffilig, yn enwedig mewn ardaloedd trefol sy’n dioddef yn sgil diffyg buddsoddiad hirdymor. 

Ein mainc arbrofi 

Mae BIOME Abertawe – gwaith ôl-osod sylweddol ar hen adeilad Woolworths – yn astudiaeth achos ymarferol o ddylunio bioffilig. 

Amcanion y gwaith 

Creu fframweithiau ar sail tystiolaeth, mewnwelediadau prisio, egwyddorion dylunio a modelau newydd o gydweithio y mae modd eu hefelychu ledled y DU ac yn rhyngwladol. 

Y cyfranogwyr 

Ymchwilwyr, ymarferwyr, partneriaid cymunedol a bwrdd cynghori rhyngwladol sy’n rhychwantu pensaernïaeth, ecoleg, seicoleg, anthropoleg, economeg ac astudiaethau diwylliannol.