REPAIR project logo UKRI Arts and Humanities logo

Mae dinasoedd yn wynebu heriau cynyddol o du newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth a dirywiad cysylltiadau â natur. Mae prosiect REPAIR yn edrych ar y ffordd y gall byw bioffilig - sy’n integreiddio natur i’r llefydd lle rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn symud drwy ddinasoedd - helpu ardaloedd trefol i addasu gan wella lles, cryfhau cymunedau a chefnogi adferiad ecolegol. Nod y prosiect yw datblygu llwybrau sy’n seiliedig ar dystiolaeth y mae modd eu hefelychu ar gyfer addasu ac ôl-osod trefol, gan helpu i drawsnewid adeiladau a chymdogaethau presennol a’u troi’n amgylcheddau iachach a mwy gwydn.

Trwy ddull trawsddisgyblaethol a chydweithredol, mae REPAIR yn dwyn ynghyd arbenigedd o feysydd y celfyddydau, y dyniaethau, y gwyddorau ac arfer proffesiynol. Mae ein tîm ymchwil yn cynnwys arbenigwyr mewn dylunio, pensaernïaeth, ysgrifennu creadigol, llenyddiaeth, hanes, y gyfraith, anthropoleg, seicoleg ac ecoleg ochr yn ochr â phartneriaid cymdeithasol sy’n gweithio ym meysydd tai cymdeithasol, adeiladu, adfer natur drefol a seilwaith gwyrdd. Gan weithio’n agos gyda chymunedau a phartneriaid lleol a rhyngwladol ar draws iechyd, llywodraeth, y celfyddydau a datblygu economaidd, mae’r prosiect yn edrych ar y ffactorau diwylliannol, cymdeithasol ac ymarferol sy’n annog neu’n atal mabwysiadu bywyd bioffilig, gan helpu i nodi llwybrau ar gyfer newid ystyrlon a pharhaol.

Wrth wraidd prosiect REPAIR mae BIOME Abertawe, lle mae gwaith ôl-osod ar hen adeilad Woolworths yn creu datblygiad bioffilig defnydd cymysg sy’n canolbwyntio ar y gymuned, gan ymgorffori tai cymdeithasol, mannau cymunedol a chynllun sy’n integreiddio natur.

Mae BIOME yn darparu labordy byw unigryw ar gyfer astudio trawsnewid trefol sy’n seiliedig ar natur.

Mae’r mewnwelediadau allweddol yn cynnwys:

  • Ôl-osod trefol yn ymarferol: Trawsnewid adeiladau presennol gyda dyluniad seiliedig ar natur
  • Gwerth cymdeithasol ac ecolegol: Manteision i bobl, cymunedau a natur
  • Cyfleoedd a heriau: Gwersi ymarferol wrth gyflwyno ymyriadau bioffilig ar raddfa
  • Ymgysylltu â’r gymuned: Sut mae pobl yn profi, llunio ac elwa ar amgylcheddau bioffilig dros amser

Mae BIOME yn cyflwyno ymchwil sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac arddangosfa gyhoeddus o sut mae bywyd bioffilig trefol yn edrych yn ymarferol.

Fel rhan o’i waith ymchwil, mae prosiect REPAIR yn treialu dull Cynnull Tîm sy’n cefnogi arweinyddiaeth gydweithredol, llywodraethu cynhwysol, cyd-ddatblygu ac arfer adfyfyriol. Mae’r model hwn yn helpu timau amrywiol i weithio’n effeithiol ar draws disgyblaethau a sectorau, gan atgyfnerthu ymchwil drawsddisgyblaethol a chydweithredu rhwng ymchwilwyr, ymarferwyr a phartneriaid cymunedol.

Dysgwch fwy am y dull Cynnull Tîm: Prosiect Thrive ym Mhrifysgol Lerpwl

Isod mae’r cyd-arweinwyr a’r aelodau allweddol sy’n arwain ac yn cyflwyno’r ymchwil:


Cyd-arweinwyr Ymchwil

  • Luci Attala

    University of Wales Trinity St David (Anthropology & deputy director of UNESCO-MOST Bridges, UK)

  • Kirsti Bohata

    Swansea University (English Literature)

  • Blanche Cameron

    University College London (Bartlett School of Architecture, Nature-based solutions)

  • Becky Cole

    Codi Group (Social Housing)

  • Carwyn Davies

    Hacer Developments Ltd (Construction)

  • Nia Davies

    Swansea University (Creative Writing)

  • Mike Fowler

    Swansea University (Biosciences)

  • Penny Gruffydd

    City and County of Swansea Council (Landscape and Green Infrastructure)

  • Victoria Jenkins

    Swansea University (Hilary Rodham School of Law)

  • Andrew Kemp

    Swansea University (Psychology)

  • Gethin Matthews

    Swansea University (History)

  • Chris Pak

    Swansea University (Contemporary Writing and Digital Cultures)

  • Geoff Proffitt

    Swansea University, (Biosciences)

  • Yolanda Rendón-Guerrero

    University of Wales Trinity St David (Architecture/ATiC)

  • Fran Rolfe

    Natural Resources Wales (Green Infrastructure)

  • Lucy Ralph

    Hacer Developments Ltd (Construction)


Cynorthwywyr Ymchwil ac Ymchwilwyr Cyswllt Academaidd

  • Dr Lowri Wilkie

    WGSSS ESRC Postdoctoral Research Fellow, School of Psychology, Swansea University

  • Dr Amy Isham

    Senior Lecturer, School of Psychology, Swansea University

  • Hal Szary

    Biodiversity Technician, Biosciences, Swansea University

  • Samantha McGrath

    Student Intern (January to June 2026), Swansea College of Art, University of Wales Trinity St David

  • Thea Wakefield

    Student Intern, Swansea College of Art, University of Wales Trinity St David

  • Brandon Roberts

    UWTSD and CWIC

  • Megan Cumming

    Research Assistant at Swansea University.



Partneriaid Prosiect a Bwrdd Cynghori Rhyngwladol

Mae prosiect REPAIR yn cael ei gefnogi gan Fwrdd Cynghori Rhyngwladol a rhwydwaith amrywiol o bartneriaid o’r byd academaidd, diwydiant, llywodraeth a sefydliadau cymunedol.

Gyda’i gilydd, mae’r cydweithrediadau hyn yn helpu i sicrhau bod ymchwil a mewnwelediadau’r prosiect yn ymarferol, yn berthnasol ac yn hwyluso ehangu, gan gefnogi mabwysiadu bywyd bioffilig ar raddfa fwy helaeth.



Beth fyddwn ni’n ei Gynhyrchu

Yn ystod prosiect REPAIR, byddwn yn cynhyrchu ystod o allbynnau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi bywyd bioffilig, gan gynnwys:

  • Fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ôl-osod bioffilig
  • Dulliau i werthuso gwerth cymdeithasol, diwylliannol ac ecolegol yn yr amgylchedd adeiledig
  • Astudiaethau achos ac egwyddorion dylunio BIOME Abertawe
  • Mewnwelediadau sy’n berthnasol i bolisi ar gyfer y rhai sy’n gwneud penderfyniadau lleol a chenedlaethol
  • Allbynnau creadigol, straeon cymunedol a deunyddiau ymgysylltu â’r cyhoedd
  • Model profedig o gynnull tîm trawsddisgyblaethol

Bydd yr allbynnau hyn yn cael eu rhannu’n agored i gefnogi mabwysiadu bywyd bioffilig ar raddfa ehangach ledled y DU a thu hwnt.

 

Cyfranogi

Mae REPAIR yn brosiect cydweithredol sy’n dod â chymunedau, ymarferwyr, llunwyr polisi ac ymchwilwyr at ei gilydd.

Mae sawl ffordd o gyfranogi, gan gynnwys:

  • Gweithdai cymunedol
  • Sgyrsiau a digwyddiadau cyhoeddus
  • Gweithgareddau ymchwil cydweithredol
  • Sesiynau cyfnewid gwybodaeth

Os hoffech gysylltu â’r tîm neu ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar ddod, cysylltwch â ni:

E-bost: REPAIR@abertawe.ac.uk



Repair Project Logo Hacer LogoAHRC Logo Swansea University Logo UWTSD Logo UCL Logo Swansea Council Logo NRW Logo