Towards a Biophilic Nation: Transdisciplinary Interventions in Design, Education and Policy (25th–26th June 2024, Swansea)

26 Mehefin 2024 Wedi’i ariannu gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM) Prifysgol Abertawe drwy grant Gosod Agenda, daeth y symposiwm rhyngddisgyblaethol hwn ag ymchwilwyr sy’n gweithio ar ddylunio bioffilig ynghyd o dri sefydliad, sef Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ogystal â siaradwyr allanol, a phartneriaid ym meysydd diwydiant, y sector cyhoeddus a bywyd dinesig. Roedd y symposiwm dau ddiwrnod yn cynnwys sgyrsiau ar y diwrnod cyntaf, ac yna diwrnod o weithdai lle roedd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cwmpasu, cyllido a chynllunio i ddatblygu gweledigaethau a strategaethau cydlynol a fydd yn cymell nodau’r Ganolfan.

Y Diwrnod Cyntaf

Roedd diwrnod cyntaf y sgyrsiau yn cynnwys cyflwyniadau gan Carwyn Davies o Hacer Developments ar gynnydd Adeilad Byw Bioffilig Abertawe (BIOSWA) ar Stryd Rhydychen a’r Athro Geoff Proffitt ar Ysbyty Bioffilig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fel enghreifftiau o astudiaethau achos dylunio bioffilig yng Nghymru. O dan y thema “Dylunio”, siaradodd Peter Head o Resilience Brokers am gynllunio a dylunio systemau integredig ar gyfer datblygiadau bioffilig, a bu Helen Kane o Access Included yn trafod materion hanfodol ynghylch dylunio cynhwysol a hygyrchedd yn ei chyflwyniad ar ddylunio bioffilig, cynhwysiant, niwroamrywiaeth a’r amgylchedd adeiledig. Trefnwyd arddangosfa ddylunio gan fyfyrwyr rhaglen Patrymau Arwyneb a Thecstilau y Drindod Dewi Sant i arddangos y gwaith gwefreiddiol roedden nhw wedi bod yn ei ddatblygu ym maes dylunio bioffilig.

Rhoddodd Adrienne Titley, ymchwilydd PhD ym Met Caerdydd, gyflwyniad ar lin a’i bosibiliadau ar gyfer addysg, gan ystyried a fyddai cyflwyno prosesau ‘llin i liain’ i’r cwricwlwm yn gallu bod o fudd i brofiad dysgu myfyrwyr yng Nghymru. O ran polisi, rhoddodd Fran Rolfe o Cyfoeth Naturiol Cymru a Penny Gruffydd o Gyngor Dinas Abertawe drosolwg o’r gwaith maen nhw wedi bod yn cydweithio arno, gyda Deb Hill (Cyngor Dinas Abertawe), ar gymdogaethau seiliedig ar natur. Yn rhinwedd ei rôl fel Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol UNESCO-MOST BRIDGES (UK), bu’r Athro Luci Attala o’r Drindod Dewi Sant yn trafod pwysigrwydd y dyniaethau i lywio polisi newid hinsawdd yn ei chyflwyniad, a oedd yn ymwneud â throsi syniadau cymhleth o ran trawsnewid cymdeithasol yn argymhellion polisi cadarn.

Rhoddwyd y ddau gyflwyniad olaf dros Zoom gan yr Athro Tim Beatley o Brifysgol Virginia a Steve Nygren o Serenbe, y ddau yn gysylltiedig â’r Sefydliad Bioffilig yn Georgia, UDA.

Roedd Beatley yn bwrw golwg ar fentrau byd-eang ysbrydoledig gan ystod o grwpiau i sefydlu bioffilia mewn mannau trefol ledled y byd yn ei gyflwyniad ar y Rhwydwaith Dinasoedd Bioffilig. Fel rhan o’r gwaith a wnaed gan y Ganolfan Ragoriaeth Fioffilig, mae Proffitt, Rolfe, Hill a Gruffydd wedi cwblhau cais i Ddinas Abertawe ymuno â’r rhwydwaith. Rhoddodd Nygren drosolwg o weledigaeth a datblygiad cymuned gynaliadwy Serenbe, yn Atlanta, gyda’r tŷ cyntaf wedi ei adeiladu yn 2004. Mae’r enghraifft hon o gymuned fioffilig yn fodel sy’n annog ystyriaethau ynghylch y potensial ar gyfer meithrin cysylltiadau mwy clos o fewn cymuned sy’n hynod gysylltiedig â lle.

Wedi’u sbarduno gan yr enghreifftiau cadarnhaol o fioffilia a dylunio bioffilig yng Nghymru a ledled y byd a gafodd sylw yn ystod y diwrnod cyntaf, daeth cyfranogwyr at ei gilydd ar gyfer diwrnod o weithdai i drafod agenda ymchwilio a gweithredu dylunio bioffilig yng Nghymru drwy’r Ganolfan Ragoriaeth. Ymunodd hwyluswyr o BIC Innovation a daeth tri myfyriwr darlunio o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, Polly Allburn, Hanny Cnossen a TT Rahmani, i gofnodi’r sgyrsiau gydol y dydd. Roedd y pwyntiau trafod yn cynnwys yr iaith a ddefnyddir i gyfleu dylunio bioffilig, y defnydd o BIOSWA fel adnodd addysgu ac ar gyfer datblygu cymunedol, cyd-greu cymunedol a gwerth ymchwil ar fioffilia i gymunedau lleol, rheoleiddio a chynllunio yn y dyfodol, hygyrchedd i natur a phontio’r datgysylltiad rhwng natur a gofod trefol. Trefnwyd tri gweithgor i ddatblygu prosiectau i edrych ymhellach ar y cwestiynau hyn.

Gweithgaredd ar ôl y Symposiwm Arweiniodd y symposiwm at y gweithgaredd canlynol:

• Datblygwyd gwefan ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fioffilig: https://biophilic.wales/

• Datblygwyd cais i Ddinas Abertawe ymuno â’r Rhwydwaith Dinasoedd Bioffilig.

• Argymhellwyd dadansoddi partneriaid cymdeithasol fel gweithgaredd i’w ystyried.

• Cyflwynwyd cais Gwobrau Cenhadaeth AHRC amlinellol ar gyfer prosiectau gwerth £2–£3 miliwn. Yn dwyn y teitl “Shared Futures: a transdisciplinary, shared-leadership case study of biophilic living, addressing the challenges of human-nature connections,” mae tîm craidd y cais yn cynnwys (o Brifysgol Abertawe): Kirsti Bohata (arweinydd y prosiect), a’r cyd-arweinwyr Andrew Kemp, Chris Pak, Geoff Proffitt, Gethin Matthews, Michael Fowler, Victoria Jenkins; (a chyd-arweinwyr o’r Drindod Dewi Sant): Luci Attala a Yolanda Rendon-Guerrero.

• Yn dilyn pwll tywod CARN ar 10 Gorffennaf, mae Farooq Shah o'r BioHub Cynhyrchion Naturiol (a fynychodd y symposiwm bioffilig) yn paratoi cais i UKRI yn ymwneud â dylunio bioffilig a llunio rhwydweithiau iachach.