Cofnodi Bywyd ar Safle’r Biome
26 Mehefin 2026
Ym mis Rhagfyr 2025, cefnogodd prosiect REPAIR weithgaredd ymgysylltu â’r gymuned a oedd yn archwilio safbwyntiau’r rhai sy’n gweithio ar ddatblygiad Biome ac yn cofnodi straeon y bobl sy’n helpu i ddod â’r adeilad yn fyw.
Dan arweiniad Dr Chris Pak o Brifysgol Abertawe, roedd y gweithgaredd yn ceisio deall sut beth oedd bod yn rhan o un o brosiectau ôl-osod mwyaf uchelgeisiol Abertawe. Drwy sgyrsiau gyda phobl sy’n gweithio ar y datblygiad, roedd y prosiect yn holi eu barn ar y Biome, yr heriau a’r cyfleoedd roedden nhw’n eu hwynebu, a realiti’r broses adeiladu o ddydd i ddydd.
Treuliodd y ffotograffydd Betsan Evans amser ar y datblygiad yn tynnu lluniau o’r adeilad a’r bobl sy’n ymwneud â’i adeiladu. Cafodd ei ffotograffiaeth ei lywio gan drafodaethau gyda gweithwyr am eu sylwadau, eu myfyrdodau a’u profiadau o’r prosiect Biome. Gwahoddwyd cyfranogwyr hefyd i gyfrannu eu ffotograffau a’u sylwadau eu hunain, gan roi mewnwelediadau ychwanegol i fywyd ar y datblygiad.
Roedd y gweithgaredd yn rhan o archwiliad ehangach prosiect REPAIR o fyw bioffilig ac atebion sy’n seiliedig ar natur. Er bod llawer o sylw yn aml yn cael ei roi i adeiladau cyflawn, roedd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar y bobl sy’n ymwneud â chreu’r mannau hynny a’r straeon a oedd yn codi yn ystod y broses adeiladu.
Mae’r ffotograffau hyn yn creu cofnod gweledol gwerthfawr o adeg arwyddocaol yn nhrawsnewidiad Abertawe. Maen nhw nid yn unig yn cofnodi’r gwaith o adeiladu’r Biome, ond hefyd profiadau, sylwadau a myfyrdodau y bobl sy’n helpu i’w adeiladu.
Bydd yr archif sy’n deillio o hynny yn cyfrannu at ymchwil barhaus prosiect REPAIR i amgylcheddau trefol byw bioffilig, sy’n wydn i effeithiau newid hinsawdd. Gallai rhai ffotograffau hefyd ymddangos mewn arddangosfeydd yn y dyfodol, gan helpu i rannu’r straeon y tu ôl i’r Biome gyda thrigolion, ymwelwyr a’r gymuned ehangach.
Trwy ganolbwyntio ar brofiadau’r rhai sy’n gweithio ar y safle, cynigiodd y prosiect bersbectif gwahanol ar adfywio, un sy’n cydnabod bod adeiladau’n cael eu llunio nid yn unig gan ddylunio ac adeiladu, ond hefyd gan y bobl sy’n dod â nhw’n fyw.