Plannu Hadau Cymuned yn y Biome

5 Mai 2026

Creu Cymuned

Tua chwech o’r gloch, dechreuodd trigolion cyntaf y Biome ymgynnull ar gyfer y sesiwn galw heibio cymunedol, rhai yn cyrraedd ar eu pennau eu hunain, a rhai yng nghwmni perthnasau. Dyma’r gyntaf o gyfres o sesiynau a gynlluniwyd i ateb cwestiynau preswylwyr a’u helpu i ddysgu mwy am eu cartrefi newydd. Trefnwyd cadeiriau mewn hanner cylch o flaen sgrin daflunio, gan greu gofod cyhoeddus dros dro lle daeth darpar gymdogion at ei gilydd i ddysgu am adeilad nad oedd llawer wedi’i weld yn y cnawd cyn hynny. Roedd yr awyrgylch yn betrus ond chwilfrydig. Sgyrsiau tawel oedd y drefn cyn i’r sesiwn ddechrau, gyda chwestiynau yma ac acw am ddyddiadau symud i mewn a sut oedd y gwaith adeiladu yn dod yn ei flaen.

Wrth i staff groesawu pawb, cyflwynwyd yr adeilad fel darpar gymuned wedi’i llunio gan werthoedd ecolegol a chyd-gyfranogi, yn hytrach na dim ond bloc o fflatiau newydd. Gwahoddwyd trigolion i ddychmygu plannu gerddi balconi a gofalu am y mannau gwyrdd cyffredin, ac fe’u hanogwyd i gyfrannu sgiliau a gwybodaeth a’u diddordebau mewn prosiectau cymunedol. Roedd iaith cyfranogi a chyd-ddylunio yn codi’n gyson drwy gydol y noson, gan danlinellu wrth y preswylwyr eu bod yn chwarae rhan weithredol yn y dasg o greu lle yn hytrach na dim ond symud i rywle i fyw. Anogwyd pawb i feddwl am sut y gallai’r mannau cyffredin esblygu drwy gyd-stiwardiaeth. Ar lawer ystyr, roedd y sesiwn yn teimlo fel y profiad o blannu hadau; egin-syniadau am natur twf eu cymuned fioffilig.

Ar ôl cyfrannu rhai syniadau, canolbwyntiodd y sesiwn ar bryderon ymarferol. Datgelodd cwestiynau am gludiadau, systemau mynediad, logisteg symud, rheolau addurno a chynnal a chadw y mannau plannu gyfuniad o gyffro ac ansicrwydd am fyw mewn adeilad sydd, i lawer o drigolion, yn dal i fodoli yn bennaf ar ffurf cynlluniau, diweddariadau a gwybodaeth ail-law. Tarfwyd ar lif y cyflwyniadau gan drafferthion technegol am ychydig, gan greu ennyd o aros ar y cyd cyn i fideo ymddangos ar y sgrin yn y pen draw. Cafwyd yr argraff fod y saib wedi symud y sylw oddi wrth y cyflwyniad ffurfiol a thuag at sgyrsiau anffurfiol ymhlith mynychwyr. Yn y sgyrsiau hyn, daeth rhai rhwystredigaethau i’r amlwg ynghylch cyfathrebu aneglur a gwybodaeth anghyson yn cael ei rhannu rhwng trigolion. Roedd y tensiynau hyn yn gymharol ddi-nod, ond roedden nhw’n amlygu’r heriau gwirioneddol o gynnal eglurder yn ystod proses ddatblygu hirhoedlog. Ar yr un pryd, ysgogwyd sgwrsio a chymharu ymhlith mynychwyr, gan annog trigolion i droi at ei gilydd am wybodaeth a sicrwydd. Wrth i’r noson fynd rhagddi, roedd y rhyngweithio’n mynd yn llai strwythuredig. Symudodd y sgyrsiau y tu hwnt i gwestiynau i’r staff a chafwyd trafodaethau am arddio, coginio, gwahanol ieithoedd, profiadau blaenorol o symud tŷ a bywyd yn Abertawe. Tyfodd yr awyrgylch yn amlwg yn fwy hamddenol a sgyrsiol ei naws. Roedd yr hyn a allai fod wedi ymddangos ar y dechrau fel sesiwn friffio am ddatblygiad tai wedi trawsnewid yn ymarfer ar greu cymuned. Er nad oedd yr adeilad yn orffenedig, drwy rannu disgwyliadau, cwestiynau ymarferol a gweithredoedd bach o ymateb cymdeithasol, dechreuodd y trigolion ddod i adnabod ei gilydd a dychmygu sut brofiad fyddai byw gyda’i gilydd yng nghymuned y Biome.